Y mae hiraeth yn fy nghalon
Am gael teimlo hyfryd flas
Concwest nwydau
sydd hyd heddiw
Yn gwrthnebu'r nefol ras;
Dyma ddawn hyfryd iawn,
Wy'n ei 'mofyn fore a nawn.
'Rwyf yn gweled bryniau uchel
Gwaredigaeth werthfawr, lawn;
O! na chawn i eu meddiannu
Cyn machludo haul brydnawn:
Dyna'm llef tua'r nef;
Addfwyn Iesu, gwrando ef.
Marchog yn dy freiniol allu,
Gwisg dy gledd yn ngwasg dy glun,
Estyn fraich, a thor elynion,
Achub wael druenus ddyn:
Gelyn llym, ni saif ddim
Fyth o flaen d'anfeidrol rym.
Minnau gerddaf drwyr byddinoedd
Ond it gerdded o fy mlaen;
Mae dy gamrau'n torri'r tonau,
Mae dy gamrau'n diffodd tân:
'Nol dy droed gwna i mi ddod,
Fy hyfrydwch mwya' erioed.
Cerdd yn mlaen, mae'm hofnau'n darfod,
Ond dy weled di ger llaw;
Ond dychwelant mewn munydyn
Os tydi a sefi draw:
Gwna bob pryd i f'enaid drud
Bwyso ar dy fynwes glyd.
William Williams 1717-91
Tonau [878767]: gwelir: Aros Iesu yn y rhyfel |
There is a longing in my heart
To get to feel a delightful taste
Of conquest over lusts
which are until today
Opposing the heavenly grace;
Here is a very delightful gift,
I am asking for it morning and evening.
I am seeing the high hills
Of very valuable, full deliverance;
O that I may get to possess them
Before the evening sun sets!
This is my cry towards heaven;
Dear Jesus, listen to it.
Ride in thy royal power,
Wear thy swords against thy thigh,
Extend an arm, and break enemies,
Save poor, wretched man:
No keen enemy shall stand at all
Ever before thy immortal force.
Even I shall walk through armies
If only thou walk before me;
Thy steps are breaking the waves,
Thy steps are extinguishing fire:
After thy feet make me come,
My greatest delight ever.
Walk onwards, my fears are dying away,
Only to see thee at hand;
But they return in a minute
If thou stand off yonder:
Make my precious soul always
Lean on thy secure bosom.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|